Amdanom ni
 

Cefndir Hanesyddol


Dechreuodd y Gymdeithas weithredu yn ardal cyn Gyngor Bwrdeistref Arfon. Ehangodd i ardal cyn Gyngor Dosbarth Dwyfor yn 1984 ac yna i Ynys Môn yn 1985. Bu gennym swyddfa lawn amser yn Ynys Môn ers 1991. Yn 1988 sefydlodd y Gymdeithas “Gofal a Thrwsio Arfon”, un o’r asiantaethau Gofal a Thrwsio cyntaf yng Nghymru. Dechreuodd yr asiantaeth honno weithredu hefyd yn Nwyfor yn 1991. Ehangodd y Gymdeithas i ardal cyn Gyngor Dosbarth Meirionnydd ar ôl derbyn cyfrifoldeb am waith Cymdeithas Tai Meirionnydd Nant Conwy yn 1992. Bu gennym swyddfa ran amser ym Mlaenau Ffestiniog tan 2005.

Ar adeg ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 ehangodd asiantaeth Gofal a Thrwsio Arfon/Dwyfor i Feirionnydd a dechrau gweithredu dan yr enw “Gofal a Thrwsio Gwynedd”. Yn 1996 derbyniodd y Gymdeithas yr hawl i redeg y cynllun newydd Cymorth Prynu (Homebuy Scheme) yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Bu gennym swyddfa lawn amser ym Mhwllheli o 1996 tan 2005 pryd y canolwyd ein gwasanaethau tai yng Ngwynedd. Yn 1997 derbyniodd y Gymdeithas gyfrifoldeb am waith Cymdeithas Dai Biwmares. Llwyddasom i sefydlu asiantaeth Gofal a Thrwsio yn Ynys Môn yn 1998, a enwyd yn “Gofal a Thrwsio Môn”. Sefydlwyd strwythur grŵp yn 1999 yn dilyn ymgorffori Gofal a Thrwsio Gwynedd fel is-gwmni i Gymdeithas Tai Eryri. Daeth Gofal a Thrwsio Môn hefyd yn is-gwmni i’r Gymdeithas yn 2003.

Yn 2004 sefydlodd y Gymdeithas y prosiect Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd (Gwynedd Rural Housing Enabler). Derbyniodd ein strategaeth adfywio stadau yng Nghae Llwybr, Caernarfon wobr TPAS Cymru am brosiect cyfranogiad tenantiaid gorau 2005. Roedd y Gymdeithas yn un o sefydlwyr Partneriaeth UNDOD yn 2005 gyda Chymdeithas Tai (CT) Clwyd, CT Gogledd Cymru a CT Canolbarth Cymru. Yn y flwyddyn honno hefyd cyflwynasom gynllun peilot ar gyfer cyflwyno tele-ofal mewn tai gwarchod traddodiadol. Yn 2006 cymerodd y Gymdeithas y cyfrifoldeb uniongyrchol am ddarparu gwasanaethau cefnogol i ferched a ddioddefodd oddi wrth drais yn y cartref yn Ynys Môn.
 


 

 

 

 

Amdanom ni | Cysylltwch â ni | Gwasanaethau i Denantiaid | Chwilio am dŷ | Cyfleoedd | Hafan | Map y Safle | Chwiliad | English
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS