Amdanom ni
 

Ein Stoc Tai


Ar 31 Mawrth 2009 roedd gennym gyfanswm o 1849 o unedau o stoc. Mae llawer o’n gwaith yn ymwneud ag:

Ehangu ein stock
Yn unol â’n Rhaglen Ddatblygu ar gyfer 2009/10 mae cyfanswm o 98 o unedau eraill naill ai yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, neu bydd y gwaith arnynt yn cychwyn yn ystod y flwyddyn – 44 yng Ngwynedd a 54 ar Ynys Môn. Bydd hyn yn bron i £10 miliwn o fuddsoddiad.

Byddwn yn buddsoddi mewn ardaloedd gwledig a threfol a bydd y cartrefi newydd yn amrywio o fflatiau i dai teulu i fyngalos, yn ddibynnol ar yr anghenion lleol. Gweler y map am fanylion.

Buddsoddi yn yr eiddo sydd gennym
Rhoddir rhai o ffigurau’r flwyddyn yn y blychau lliw ar y dudalen hon. Mae’n hollbwysig i ni ein bod yn landlord cyfrifol ac yn cyflawni’r gwaith hwn er mwyn ein tenantiaid presennol.

  • Cafodd 36 cegin, 120 o gawodydd, 46 o siediau a 66 ffens newydd eu gosod. Cafodd 27 o’n tai ffenestri newydd.
  • Buddsoddwyd £630,642.00 ar atgyweirio sylweddol, £244,299.04 ar welliannau tai a £180,000 ar welliannau stad.
  • Cwblhawyd cae chwarae newydd yn Nhrem y Moelwyn, Penrhyndeudraeth a thrwy drafod ac ymgynghori gyda thenantiaid yngl ˆyn â’r blaenoriaethau ar eu stadau mae rhaglenni gwella stad wedi cychwyn yn Hafan Deg, Tanygrisiau a Chefn Cadnant, Caernarfon.
  • Cafodd cartrefi newydd gwerth £3,232,609 eu cwblhau. Cafodd gwaith ar gynlluniau gwerth £7,432,740 pellach ei gychwyn, ond nid ei gwblhau yn 2008/09.
  • Cafodd £434,348.10 ei wario ar gynnal a chadw ymatebol, £185,848.07 ar waith cyn ail-osod a £177,415.69 ar gytundebau gwasanaeth.
  • Gosodwyd 140 o unedau i denantiaid newydd.
  • Cafodd 191 eiddo eu peintio ar gost o £90,228.82 o dan ein Rhaglen Peintio Cylchol.

Yn unol â’n Strategaeth Rheoli Asedau byddwn yn buddsoddi £10.5 miliwn yn ein stoc bresennol rhwng 2009-14. Yn ogystal â gwaith cynnal a chadw a gwaith uwchraddio arferol, byddwn yn cyflwyno nodweddion arloesol megis ynni adnewyddol a systemau gwresogi fforddiadwy.

@ 31.03.2009 Gwynedd Ynys Mocirc;n Conwy Cyfanswm
Tai Rhent        
Tai ar rent ar gyfer anghenion cyffredinol 804 302 - 1,106
Tai ar gyfer pobl hŷn 109 71 - 180
Tai gyda chefnogaeth 131 64 - 195
Is-gyfanswm 1,044 437 - 1,481
Tai Cost-isel        
Cymorth Prynu 221 108 34 363
Rhan-berchnogaeth 4 1 - 5
Is gyfanswm 225 109 34 368
Cyfanswm stoc Tai 1,269 546 34 1,849

 

 

 

 

 

Amdanom ni | Cysylltwch â ni | Gwasanaethau i Denantiaid | Chwilio am dŷ | Cyfleoedd | Hafan | Map y Safle | Chwiliad | English
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS