|
|
||||||||||||
|
|
Rhentu [...ymlaen]Sut mae symud i un arall o dai’r Gymdeithas?Gallwch benderfynu symud ty oherwydd nifer o resymau:
Os ydych yn penderfynu symud ty, gall y Gymdeithas eich helpu mewn nifer o ffyrdd: Cyfnewid gyda thenant arallMae gennych yr hawl i gyfnewid eich ty gyda thenant arall Cymdeithas Tai Eryri, cymdeithas dai arall neu Gyngor lleol cyn belled a bod y ty yn addas ar eich cyfer. Rhaid i chi gael caniatad ysgrifenedig y Gymdeithas cyn cyfnewid gydag unrhyw denant arall. Gall cyfnewid gyda tenant arall fod yn ffordd effeithiol o newid ty a gallwn eich helpu drwy hysbysebu eich ty ar ein safle we, ar hysbysfwrdd y swyddfa neu mewn rhifyn o Taro’r Post (cylchlythyr tenantiaid y Gymdeithas). Os ydych yn dod o hyd i denant sydd yn fodlon cyfnewid, bydd rhaid i ni drefnu i Swyddog alw i’ch gweld i archwilio’ch cartref yn gyntaf. Os yw eich cartref mewn cyflwr derbyniol ac os yw eich cyfrif rhent yn glir, yna cewch fynd ymlaen gyda’r cyfnewid. Pe caech yn cyfnewid gyda thenant arall heb gael ein caniatâd, gallwn gymryd camau cyfreithiol i’ch troi allan o’r eiddo. Mae gennym hawl i beidio caniatau cyfnewid mewn ffyrdd eraill hefyd:
Medrwn hefyd beidio caniatau cyfnewid os ydym yn teimlo bod yr eiddo rydych yn bwriadu symud iddo yn anaddas ar eich cyfer. TrosglwyddoOs ydych eisiau symud i gartref arall ac ar yr un pryd am aros yn denant i Gymdeithas Tai Eryri, mae hawl gennych i ofyn am gael mynd ar y rhestr trosglwyddo. Rydym yn ystyried ceisiadau am drosglwyddiad gan unrhyw denant ond mae eithriadau:
Cynllun Mudoledd HOMESOs oes arnoch angen symud i ran arall o’r wlad i fyw, gallwn eich helpu i symud drwy gyfrwng Cynllun Mudoledd HOMES (Housing Organisation Mobilty & Exchange Service) sef cynllun cenedlaethol sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth. Cynllun yw hwn lle mae cymdeithasau tai a chynghorau yn enwebu ymgeiswyr ar gyfer eiddo addas mewn ardaloedd eraill o ddewis y tenant. Nid yw cynllun HOMES yn rhoi hawl awtomatig i chi symud o un ardal i’r llall ac nid oes raid i’r cyngor neu gymdeithas dai yn yr ardal yr hoffech symud iddi eich ail cartrefu. Rydych yn gymwys i dderbyn help y cynllun os ydych yn disgyn i un o’r categorïau canlynol:
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch efo ni yn y swyddfa. < tudalen blaenorol | tudalen 2 o 1 2
|
|
|
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS
|