Gwobr o £100 am ddychwelyd holiadur mis Ebrill
Llongyfarchiadau i Mr Thomas o Amlwch am ennill talebau gwerth £100 am ddychwelyd holiadur ar waith paentio allanol sydd wedi ei wneud gan gwmni Seddons.
Bob mis byddwn yn dewis un enillydd lwcus o’r holiaduron sydd wedi ei dychwelyd. Os byddwch yn derbyn holiadur gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gwblhau a’i anfon yn ôl.
Enillydd mis Mai yw Llinos Jones o Langefni. Bydd cynrychiolydd mewn cysylltiad yn fuan er mwyn cyflwyno’r wobr.
