Mae’r Gymdeithas yn awyddus i sicrhau aelodaeth sydd â diddordeb eang ac yn gynrychiolaeth deg o ardaloedd gweithredu’r Gymdeithas. Rydym yn annog pobl i ymaelodi gyda’r Gymdeithas am £1.00. Er ni thelir unrhyw ddifidend, mae’n rhoi cyfle i chi bleidleisio yn ein cyfarfodydd cyffredinol ac o bosibl yn gyfle i chi gael eich ethol yn aelod ar y Bwrdd Rheoli.
Pam ymuno?
- Mae Cymdeithas Tai Eryri yn atebol i’r gymuned leol drwy aelodau’r Gymdeithas. Bydd Cyfarfod Blynyddol yr aelodau yn dewis swyddogion ac yn ethol y rhai fydd yn gwasanaethu ar y Bwrdd Rheoli.
- Mae’r aelodau’n amddiffyn buddiannau Cymdeithas Tai Eryri ac yn cefnogi nodau ac amcanion y Gymdeithas.
Pwy all ymuno?
- Gall unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol ymuno ar yr amod eu bod yn uniaethu ag anghenion y cymunedau y mae Cymdeithas Tai Eryri’n gweithredu ynddynt.
- Mae’n rhaid i’r aelodau fod yn 18 oed; heb fod yn gyflogedig gan Gymdeithas Tai Eryri nac un o is-gwmnïau’r Gymdeithas.
- Gall y tenantiaid fod yn aelodau, ond ni chaniateir mwy na thraean yr aelodau’n denantiaid. Bwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Eryri fydd yn ystyried ceisiadau gan ddarpar aelodau.
tudalen 1 o 1 2 | tudalen nesaf >