Cyfleoedd
 

Grwpiau Tenantiaid


Mae’r Gymdeithas yn awyddus i roi’r cyfle i denantiaid gymryd rhan yn y penderfyniadau a’r polisiau sy’n effeithio ar eu tenantiaeth â’u cartrefi. Mae gan y Gymdeithas Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid sy’n rhoi amcanion a thargedau i’r Gymdeithas gyrraedd atynt i sicrhau bod tenantiaid yn cael pob cyfle i gymryd rhan. Bydd y Strategaeth yma’n cael ei adolygu â’i fonitro’n flynyddol. Un ffordd i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Gymdeithas ac unrhyw ddatblygiadau cymunedol yw drwy fod yn rhan o Grŵp Tenantiaid.

Cyflogir 2 Swyddog Cymuned rhan amser o fewn y Tîm Prosiectau Cymuned sy’n gallu helpu drwy:

  • Roi cymorth i sefydlu grwpiau, cynnig cefnogaeth a hyfforddiant, a help gyda phrosiectau.
  • Dalu am fan cyfarfod i’r Grwp a rhywun i gynnal creche (i sicrhau bod rhieni hefyd yn gallu dod i gyfarfodydd).
  • Rhoi grant blynyddol o £50 i Grwp ar gyfer costau gweinyddu (e.e. papur, galwadau ffôn, stampiau). Rhaid bod gan y Grwp Gyfansoddiad ac wedi agor cyfrif banc cyn hawlio’r £50 yma ond gall y Swyddog Cymuned helpu.

Galluogi Grwpiau i ddefnyddio swyddfeydd y Gymdeithas, e.e. i lungopio.

Mae nifer o grwpiau tenantiaid yn bodoli ar draws Gwynedd a Môn. Mae rhai o’r rhain yn grwpiau i denantiaid i’r Cyngor, cymdeithasau tai eraill a thrigolion tai preifat. Weithiau, mae grwpiau yn dewis gweithio mewn ffordd ffurfiol (gyda Chyfansoddiad), gan ei bod yn haws denu grantiau ar gyfer prosiectau sydd o fudd hollol anffurfiol, yn trafod problemau a gwelliannau i’w stadau ac yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol, e.e. tripiau. Rhai o’r grwpiau tenantiaid sydd wedi ei sefydlu yw :

  • Grwp Ty’n Rodyn
  • Grwp Hafan Deg, Tanygrisiau
  • Grwp Cymunedol Maesincla – Maent yn cynnal caffi scandals bob dydd Mercher yn yr ganolfan rhwng 10 a 2 o’r gloch
  • Grwp Cerrig yr Afon, Porthmadog – Ail sefydlwyd y grwp ar ddechrau 2004. Mae’r grwp eisiau taclo problemau fel parcio a sbwriel, ac mae’r Gymdeithas yn gweithio gyda hwy i godi arian i ychwanegu at y gardd cymunedol ar y stad.
  • Llysiau Lleu – Sefydlwyd Llysiau Lleu ym Mawrth 2002 i greu prosiect iechyd a garddio o Dalysarn a Nantlle. Mae’r grwp wedi trefnu dosbaerthiadau garddio, ymweliadau i brosiectau eraill, cynllun blychau llysiau a brosiect i mapio’r ardal.
  • Pwyllgor Penygroes – Helpodd y Gymdeithas sefydlu y Pwyllgor yn Hydref 2002 ar ôl gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus, llwyddodd y Pwyllgor cael £8,000 i gyflogi ymgynghorydd i ddatblygu strategaeth i’r ardal.

Os yr hoffech chi gychwyn Grwp Tenantiaid yn eich ardal neu’ch stad, neu os ydych eisiau unrhyw gymorth neu gyngor, cofiwch gysylltu ô’r Swyddogion Cymuned ac fe ddaw un ohonynt draw i roi help llaw.

Rhif ffôn – 01286 881588
Rhif ffacs – 01286 881141
E-bost: caren@taieryri.co.uk neu ben@taieryri.co.uk


 

 

 

 
Amdanom ni | Cysylltwch â ni | Gwasanaethau i Denantiaid | Chwilio am dŷ | Cyfleoedd | Hafan | Map y Safle | Chwiliad | English
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS