Tenant Services
 

Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid


Pam darparu gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid?
Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn wreiddiol gan Gymdeithas Tai Eryri er mwyn ceisio datrys problem gyda throsiant uchel o denantiaid. Roedd y Gymdeithas yn teimlo mai’r rheswm am hyn oedd y ffaith bod nifer o’r tenantiaid yn symud i mewn i eiddo’r Gymdeithas heb y sgiliau na’r wybodaeth i fyw yn annibynnol.

Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn mis Ionawr 2001 gyda’r nod o ddarparu cefnogaeth unigol i bob tenant oedd angen y gwasanaeth.

Beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud?
Mae’r Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid yn anelu at:

  • helpu cynnal tenantiaethau a lleihau trosiant
  • Atal digartrefedd lle bynnag bo’n bosibl ac i gynnwys tenantiaid sydd wedi eu heithrio yn gymdeithasol
  • Helpu tenantiaid ifanc a bregus i ddatblygu eu sgiliau bywyd, eu gallu ymarferol a’u hyder

Ceisiwn wireddu’r amcanion yma trwy gynnig cefnogaeth a chyngor gyda materion cyflogaeth, help gyda gwasanaethau dŵr, trydan, nwy ayb, chwilio am ddodrefn, hawlio budd-daliadau, cysylltu ag asiantau eraill ar ran y tenantiaid, a hybu sgiliau cyllidebol.

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?
Gall unrhyw denant neu ddarpar denant i’r Gymdeithas wneud defnydd o’r gwasanaeth os y teimlir y byddai o fudd iddynt. Gall unrhyw un o swyddogion tai’r Gymdeithas gyfeirio achos at y Swyddog Cefnogi Tenantiaid.

Gweithgareddau Penodol
Mae’r isod yn dangos pa fath o weithgareddau y gallai’r Swyddog Cefnogi Tenantiaid eu cyflawni fel rhan o’r pecyn cefnogaeth.

  • Cyngor ar Fudd-daliadau
    Budd-dal tai, cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, budd-daliadau anabledd, credyd treth gweithio ayb. Gall y gefnogaeth gynnwys help i lenwi ffurflenni a chysylltu gyda’r asiantaethau perthnasol.
  • Cyngor Rheoli Pres
    Gall y Swyddog Cefnogi Tenantiaid helpu a chynghori gyda pharatoi a chadw at gyllideb.

    Gwasanaethau Dŵr, Trydan, Nwy ayb
    Gall y Swyddog Cefnogi Tenantiaid helpu tenantiaid newydd i gael cysylltu gwasanaethau dŵr, trydan a nwy.

    Dodrefnu’r Eiddo
    I gleientiaid gydag ond ychydig, neu ddim, dodrefn. Gall Cymdeithas Tai Eryri ddarparu cyngor ar sut a ble i gael dodrefn rhad o ansawdd a pha ddodrefn fyddai’n bwysicaf i gael gyntaf. Gallai Cymdeithas Tai Eryri roi gwybod i gleientiaid am gwmnïau neu asiantaethau sy’n rhoi dodrefn i ffwrdd am ddim.
  • Ceisiadau am Grantiau
    Gall y Swyddog Cefnogi Tenantiaid roi cyngor a chymorth i lenwi ffurflenni cais am grantiau i asiantaethau perthnasol.
  • Cyngor ar Addysg a Hyfforddiant
    Gall hyn gynnwys cyngor ar gyrsiau sydd ar gael, cysylltiadau ar gyfer colegau lleol a chymorth i lenwi ffurflenni cais.
  • Cyfeirio i Asiantaethau Eraill
    Os yw’r cleient angen lefel uwch neu fath o gefnogaeth nad yw’r Gymdeithas yn gallu ei gynnig, gall y Swyddog Cefnogi Tenantiaid gyfeirio’r cleient at yr asiantaeth berthnasol.
  • Cymorth gyda chael cartref Newydd
    Gall y Swyddog Cefnogi Tenantiaid roi cymorth a chyngor i denantiaid i ddarganfod llety tu allan i eiddo’r Gymdeithas.
  • Eiriolaeth a Chyswllt
    Lle mae’r Swyddog Cefnogi Tenantiaid yn cysylltu ag asiantaethau eraill ar ran y tenant.

Pryd mae angen y gwasanaeth?

  • Mae teulu’r tenant yn anfodlon neu’n methu cynnig y lefel o gefnogaeth y mae’r tenant ei angen
  • Mae gan y tenant/ymgeisydd ond ychydig neu ddim profiad o fyw yn annibynnol
  • Mae gan y tenant ond ychydig neu ddim dodrefn a dim modd i brynu dodrefn
  • Nid yw’r tenant/ymgeisydd yn ymwybodol o gostau byw yn annibynnol a gallai elwa o gael cymorth i reoli arian
  • Mae fflat y tenant mewn cyflwr gwael (sydd yn fai ar y tenant)
  • Mae tystiolaeth nad yw’r tenant y gwybod sut i gadw ei hunan na’r cartref yn lân a thaclus
  • Mae gan y tenant fwy na £500 o ddyled rhent

Nod y cynllun
Nod y cynllun yw i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu trin â pharch ac urddas ac iddynt ennill annibyniaeth, er mwyn rheoli ei bywydau eu hunain.

Mae’r cynllun yn anelu at roi grym a hybu tenantiaid i allu gwneud drostynt hwy eu hunain.

Mae’r gwasanaeth yn rhoi sgiliau angenrheidiol a’r hyder i denantiaid allu cynnal eu tenantiaethau ac i fyw yn annibynnol yn llwyddiannus. Yn ogystal â darparu’r sgiliau yma yn unol â’r Cynllun Rheoli Tenantiaeth, mae’r tenantiaid yn cael hwb i wneud drostynt hwy eu hunain lle bo’n briodol ac i gymryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau.

Mae’r cynllun cefnogaeth yn hybu’r tenantiaid i gymryd rhan weithredol yn eu rhaglen cefnogaeth yn ogystal â gwella safon y gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr eraill y gwasanaeth. Byddwn yn anfon holiadur bodlonrwydd gwasanaeth i bob tenant er mwyn monitro bodlonrwydd gyda’r gwasanaeth ac i weithredu ar awgrymiadau gan denantiaid er mwyn gwella’r gwasanaeth.

Cliciwch ar y linc canlynol am gopi PDF o'n Taflen Cefnogi

Cliciwch ar y linc canlynol am gopi PDF o'n llyfryn Fy Nghartref

 
Amdanom ni | Cysylltwch â ni | Gwasanaethau i Denantiaid | Chwilio am dŷ | Cyfleoedd | Hafan | Map y Safle | Chwiliad | English
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS