Dylech sicrhau eich bod yn talu eich rhent bob dydd Llun. Os am dalu’n
fisol, rhaid talu ymlaen llaw. Bydd rhai ohonoch yn talu tâl gwasanaeth
ar ben eich rhent am wasanaethau ychwanegol fel garddio, goleuo a glanhau
cymunedol, systemau larwm tân a systemau gofal (Gofal Môn/Llinell
Gymorth). Bydd y taliadau hyn wedi eu nodi ar eich cytundeb tenantiaeth.
Sut i Dalu
Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol i dalu’ch rhent:
-
Drwy 'Direct Debit'
Gall eich swyddfa leol drefnu i chi dalu drwy
Direct Debit'. Mae hyn yn caniatau eich banc/cymdeithas adeiladu wneud taliadau rhent
yn uniongyrchol i ni. Gallwch drefnu bod y rhain naill ai’n daliadau
wythnosol neu fisol.
-
Talu Ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy gwefan AllPay. Cliciwch ar y linc yma, a dilynnwch y canllawiau
-
Efo terminal ‘Pay Point’
Mae y rhain ar gael ymhob swyddfa post ac mewn siopau ac archfarchnadoedd.
Mae eich Cerdyn Talu Rhent personol yn golygu bod talu’r rhent yn hawdd a
chyfleus.
Cyflwynwch y cerdyn efo’ch arian neu siec (Dylai’r siec fod yn
daladwy i Cownteri Swyddfa Post Cyf). Cewch dderbynneb am y taliad a dylech ei
gadw yn y waled bwrpasol fel prawf eich bod wedi talu. Dylai’r taliad fod
wedi ei gofnodi ar eich cyfrif rhent gennym ni o fewn 4 diwrnod.
Os digwydd i chi golli eich cerdyn, neu ei fod wedi cael ei ddifrodi neu ddwyn,
cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn i ni archebu un newydd.
-
Yn eich swyddfa leol
Gallwch dalu’r rhent yn y swyddfa pe baech yn galw mewn. Gofalwch bod yr
aelod staff sy’n derbyn eich taliad yn rhoi derbynneb i chi a’ch
bod yn ei gadw yn ddiogel.
-
Drwy gerdyn banc
Gallwch hefyd dalu eich rhent drwy ddefnyddio unrhyw un o’r cardiau banc
yma.
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw ffonio unrhyw un o’n swyddfeydd
gyda’r manylion canlynol:
-
Rhif eich cerdyn
-
Math o gerdyn
-
‘Expiry date’
-
‘Issue Number’
-
Swm y taliad rydych am ei wneud
-
Cadarnhau yn enw pwy mae’r cerdyn
Er diogelwch a thawelwch meddwl i chi, os bydd aelod o staff yn eich ffonio i
ofyn am daliad – gofynnwch iddynt roi rhif eich tenantiaeth neu god yr
eiddo i chi. Bydd Swyddogion dilys yn gallu rhoi’r wybodaeth gywir i chi.
tudalen
1 o 1
2
| tudalen
nesaf >