|
|
||||||||||||
|
|
Cyfrifoldebau Landlord a ThenantMae’r Cytundeb Tenantiaeth yn ddogfen gyfreithiol sydd yn nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel tenant a hawliau a chyfrifoldebau y Gymdeithas fel eich landlord. Unwaith y byddwch wedi ei arwyddo, mae’r gyfraith yn tybio eich bod wedi darllen y cytundeb ac yn ei ddeall. Mae’n bwysig i chi gofio y medrwch golli eich hawliau fel tenant os ydych yn torri amodau eich cytundeb. Os oes unrhyw beth yn y Cytundeb nad ydych yn ei ddeall, dylech gysylltu gyda’r Swyddog Tai yn eich sywddfa leol. Ni all y Gymdeithas eich gorfodi i adael eich cartref heb gael gorchymyn gan y Llys Sirol. Mae’r gyfraith yn cyfeirio at hyn fel ‘hawliau meddiannu’. Gall y Llys Sirol ganiatau gorchymyn meddiant ar nifer o seiliau, er engraifft, ôl-ddyledion rhent, aflonyddu ar gymdogion, difrod i eiddo ac ati. Rhaid i ni gyflwyno Rhybudd o fwriad i Geisio Meddiant i chi cyn y medrwn gychwyn gweithredoedd llys. Fel tenant mae gennych yr hawl i fyw yn eich cartref yn heddychlon
a heb ymyrraeth y Gymdeithas ond bydd angen i chi ganiatau
mynediad i’n gweithwyr neu’n contractwyr i archwilio
cyflwr yr eiddo neu i wneud gwaith trwsio. Byddwn yn ceisio
rhoi o leiaf 24 awr o rybudd i chi mewn amgylchiadau o’r
fath, ond bydd angen mynediad yn ddioed mewn argyfwng. Disgwylir
i chi fyw yn yr eiddo fel eich unig neu brif gartref.
|
|
|
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS
|