Pwrpas y daflen hon ydyw rhoi gwybodaeth i chi fel
tenantiaid am y gwasanaeth rydym yn ei roi i chi.
Rydym yn gobeithio ei fod yn daflen sy’n hawdd ei deall
a’i bod yn rhoi gwybodaeth gryno am y math o
wasanaeth rydym yn ei ddarparu i chi.
Cadwch y daflen yn ddiogel a’i defnyddio cyn cysylltu
gyda ni. Mae cael barn tenantiaid wedi bod yn
ganolbwynt i ddatblygu’r safonau hyn a drwy ofyn barn
tenantiaid rydym yn gobeithio bod y daflen yn
un ddeniadol a defnyddiol.
Rydym am sicrhau ein bod yn cynnal y safon hon drwy
gasglu
sylwadau am ein gwasanaethau a gadael i chi wybod beth
rydym
yn ei wneud a sut rydym yn gwella.
Os rydych yn sylwi nad ydym yn cyrraedd rhai o’r safonau
hyn
byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau gennych, er mwyn
parhau i wella’n gwasanaethau.
Cynnal a chadw
Byddwn yn:
- rhoi gwasanaeth cais am waith argyfwng 24 awr, 365
diwrnod y flwyddyn
- rhoi gwybod ar y math o waith sydd angen ei wneud a
pryd fydd y gwaith yn cael ei gwblhau:
- Argyfwng - o fewn 24 awr (enghraifft o hyn yw dim dŵr
neu wres yn eich cartref)
- Brys - o fewn 7 diwrnod (enghraifft o hyn yw cyflenwad
rhannol o ddwˆr oer neu boeth neu ddiffyg
rhannol yn y gwres)
- Angenrheidiol - o fewn 30 diwrnod (enghraifft o hyn yw
trwsio blwch llythyrau)
- ymateb i holiaduron sydd yn nodi safon anfoddhaol am
ein gwasanaeth
- gwasanaethu bwyleri nwy yn flynyddol gan roi wythnos o
rybudd yn ysgrifenedig
- rhoi gwybod pan fo cais am waith yn cael ei ystyried
yn
gyfrifoldeb y tenant a bydd cost am gwblhau’r gwaith
- sicrhau fod contractwyr yn dilyn côd ymddygiad
Gwaith Cynlluniedig (gwaith mawr fel cegin newydd neu
ffenestri newydd)
Byddwn yn:
- rhoi gwybod pa waith fydd yn cael ei wneud yn eich
cartref yn ystod y flwyddyn ariannol
(Ebrill-Mawrth)
- hysbysu drwy lythyr o leiaf 2 wythnos cyn i waith
gychwyn
- rhoi cynnig dewis o liw ar gyfer ceginau, lloriau yn y
gegin a stafell ymolchi,
drysau drws ffrynt os yw’n bosib
- rhoi enw a rhif ffôn y contractwr fydd yn gwneud y
gwaith
- sicrhau fod contractwyr yn dilyn côd ymddygiad
Datblygiadau newydd
Byddwn yn:
- sicrhau fod eiddo newydd wedi eu hadeiladu i safon
ofynnol y Llywodraeth a gofynion
deddfwriaethol
- cadarnhau 14 diwrnod o flaen llaw dyddiad symud fewn
i’r eiddo
- rhoi gwybodaeth sut i ddefnyddio’r cyfleusterau yn yr
eiddo fel y bwyler neu system wresogi
- rhoi gwybodaeth am safon yr eiddo newydd cyn i
denantiaid symud i mewn
Gwasanaeth Rhenti
Byddwn yn:
- ysgrifennu atoch ynglŷn â newidiadau yn eich rhent a
thâl gwasanaeth yn ystod mis Mai bob blwyddyn
- cynnig ffyrdd gwahanol o dalu rhent drwy: debyd
uniongyrchol, siec, cardiau talu rhent neu arian parod
- cysylltu â chi os rydych wedi methu mwy nag un taliad
cyson
- delio gydag achosion o rent sydd heb eu talu yn
brydlon
- eich cyfeirio at asiantaethau eraill all eich helpu
gyda materion ariannol
Ymddygiad gwrth gymdeithasol
Byddwn yn:
- cydnabod pob achos o ymddygiad gwrth gymdeithasol
- ymateb i achosion o niwsans ac aflonyddwch hiliol o
fewn 3 diwrnod gwaith
- cytuno ac arwyddo cynllun gweithredu gyda’r person
sydd yn dioddef ymddygiad gwrth gymdeithasol
a’r person sydd yn achosi’r broblem
- rhoi eglurhad pam fod achosion yn cael eu cau
- cyd weithio gydag awdurdodau lleol, heddlu ac
asiantaethau eraill i ddelio gydag
ymddygiad gwrth gymdeithasol
- rhoi hysbys i achosion o orchmynion a throi allan
- gofyn barn yn ystod ymweliad cartref, er mwyn casglu
adborth ar ein gwasanaeth
tudalen
1 o 1
2
| tudalen
nesaf >