Ceisio am dŷ a Gosod Eiddo
Byddwn yn:
- rhoi ffurflen gais a thaflen wybodaeth i ymgeiswyr
- ystyried ceisiadau yn unol â’n polisi gosod
- rhoi cyngor a gwybodaeth i gwblhau’r ffurflen
- adolygu ein rhestr aros yn flynyddol gan ysgrifennu at
bob ymgeisydd
- gweithredu polisi gosod lleol mewn ymgynghoriad, er
mwyn sicrhau cymuned gynaliadwy
- ystyried pob cais yn unigol os rydych eisiau cyfnewid
eich eiddo
- gosod ei eiddo yn unol â’r polisi gosod
- trefnu cyfarfod i chi weld yr eiddo gan sicrhau ei fod
yn cwrdd â safon eiddo gwag
- rhoi cytundeb tenantiaeth i chi gan egluro eich
cyfrifoldebau a’n cyfrifoldeb ni fel landlord
- rhoi ‘pecyn croeso’ i bob tenant
- ymweld â phob tenant o fewn 6 wythnos iddynt symud
fewn
- ymweld â chi yn ystod y mis o rybudd os rydych yn
penderfynu gadael eich eiddo
Cefnogaeth i gynnal eich tenantiaeth
Byddwn yn
- annog tenantiaid i fyw yn annibynnol gan gynnig
gwasanaeth cefnogi tenantiaid
- eich cyfeirio at asiantaethau eraill all eich helpu
gyda materion cefnogi
- rhoi gwasanaeth ar gyfer pobl hŷn
Tai â chefnogaeth (cynlluniau penodol i denantiaid gydag
anghenion cefnogaeth)
Byddwn yn:
- darparu gwasanaeth i denantiaid gydag anghenion
cefnogaeth drwy ein cynlluniau tai a chefnogaeth
Gofal cwsmer
Byddwn yn:
- ymateb i’ch ymholiad yn yr iaith o’ch dewis chi, drwy
Gymraeg neu Saesneg
- cynnig gwasanaeth ‘language line’ ar gyfer ieithoedd
eraill
- cynnig gwahanol ffyrdd i chi gysylltu â ni: ffôn, mewn
person, ysgrifennu neu e-bost
- ceisio delio gyda’ch ymholiad ar yr ymgais gyntaf, os
na fydd hyn yn bosib byddwn yn egluro pam
ac yn rhoi manylion cyswllt person neu asiantaeth gall
eich helpu
- ceisio cael pethau yn iawn tro cyntaf, ond os ydym
ni'n methu, yn ymddiheuro ac yn ceisio dysgu o’n
camgymeriadau
- cael adborth gennych ar ein gwasanaethau er mwyn
gwella ein gwasanaeth, a chyhoeddi canlyniadau
holiaduron
- cydnabod llythyrau ac e-bost o fewn 10 diwrnod gwaith
- rhoi gwybodaeth a chyngor i chi drwy gynnig ymweliadau
cartref, cyfweliad yn y swyddfa,
digwyddiadau galw fewn a rhifau ffôn uniongyrchol i
swyddogion
- delio gyda chwynion o fewn 10 diwrnod gwaith
- ysgrifennu atoch i adael chi wybod am unrhyw
newidiadau i’ch cytundeb tenantiaeth
Cydraddoldeb
Byddwn yn sicrhau:
- ein bod yn cynnig gwasanaeth cydradd heb wahaniaethu
ar sail crefydd, hil, rhywioldeb, statws
priodasol, anabledd nag oed
- fod staff yn derbyn hyfforddiant ar faterion
cydraddoldeb er mwyn cwrdd â gofynion cwsmeriaid
- ein bod yn casglu a monitro gwybodaeth sydd yn sicrhau
does neb yn derbyn anffafriaeth
- ein bod yn gallu cynnig ein cyhoeddiadau mewn fformat
gwahanol e.e. print bras neu ar dâp
Cyfranogiad tenantiaid ac ymgynghori
Byddwn yn:
- helpu grwpiau tenantiaid sy’n bodoli yn barod a helpu
tenantiaid sydd eisiau sefydlu grŵpiau
- cymunedol a grŵpiau tenantiaid newydd
- cynnig cefnogaeth hyfforddiant a chyngor i grwpiau neu
unigolion sydd eisiau cymryd rhan mewn
materion cymunedol/tai, gan gynnwys rhoi cymorth
proffesiynol ac ariannol i denantiaid
- sicrhau nad oes baich ariannol yn disgyn ar ein
tenantiaid wrth iddynt wirfoddoli a chymryd rhan yng
ngweithgareddau Cymdeithas Tai Eryri
- cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n adrodd am ein
perfformiad
- rhoi gwybodaeth glir ac amserol i denantiaid ar ein
polisïau a gweithdrefnau, gan ofyn barn tenantiaid
pan rydym yn adolygu polisïau neu unrhyw newid mewn
gwasanaeth
- cynhyrchu Strategaeth fydd yn rhoi gwybodaeth am y ffordd
byddwn yn hwyluso cyfranogiad