Tenant Services
 

Gwybodaeth Gyffredinol


Mae’r Gymdeithas yn darparu gwasanaeth o 2 swyddfa – y brif swyddfa ym Mhenygroes a swyddfa Llangefni yn Ynys Mon.

Mae’r staff yno i’ch cynorthwyo bob amser, i drafod eich problemau ac i roi cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’ch tenantiaeth. Fel arfer, nid oes angen i chi wneud apwyntiad i’w gweld, ond mae’n well holi gyntaf i sicrhau y byddant ar gael i’ch gweld pan fyddwch yn galw i mewn i’r swyddfa. Pe bai angen, gallant ymweld â chi yn eich cartref os yw hynny’n well gennych.

Delio gyda ymholiadau

  • Rydym yn ymdrechu i ddelio gydag ymholiadau wyneb yn wyneb mewn ffordd gwrtais a phrydlon.
  • Rydym yn cynnig cyfleusterau os ydych eisiau trfod rhywbeth yn breifat.
  • Rydym yn barod i ymweld â chi yn eich cartref i drafod rhywbeth os dymunwch hynny.

Galwadau Ffôn

  • Rydym yn ateb y ffôn cyn gynted ag y bo modd gan ddelio gydag unrhyw ymholiadau ffôn mewn dull gwrtais a phrydlon.
  • Darparu gwasanaeth peiriant ateb pan fo’r swyddfeydd ar gau sy’n rhoi gwybodaeth am ein rhif ffôn argyfwng.
  • Ymateb i ymholiadau adawyd ar y peiriant ateb cyn gynted â phosib.
  • Peidio â’ch cadw i aros yn rhy hir os ydych yn ffonio ac os nad yw’r person y dymunwch siarad ag ef/hi ar gael. Pe digwydd hyn, byddwn yn gofyn os oes posib eich ffonio’n ôl.

Ymateb i lythyrau

  • Rydym yn ymdrechu i ymateb i lythyrau yn brydlon ac effeithiol, yn gryno ac yn syml gan roi gwybodaeth i chi am bwy sy’n delio gyda’ch ymholiad.

Gwybodaeth ac Ymgynghoriad Ddwyieithog

Rydym yn cydnabod hawliau unigolion a grwpiau i ddefnyddio’r iaith o’ch dewis. Ein bwriad yw i ddarparu gwasanaeth cyson ar gyfer siaradwyr Cymraeg a Saesneg.

  • Croesawn ymholiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg ac ymdrechwn i ymateb iddynt yn yr iaith briodol.
  • Darparwn wybodaeth ddwyieithog ar ein perfformiad a’n gwasanaethau.
  • Croesawn sylwadau am y gwasanaeth a ddarperir gennym ac fe ymdrechwn i ddelio gydag unrhyw ymholiad yn brydlon ac effeithiol.

     

     

     

 

Mae pob swyddfa yn gallu delio gyda’r gwasanaethau sylfaenol canlynol:

  • Rhenti
  • Ôl-ddyledion Rhent
  • Rhestr aros am lety
  • Trosglwyddiadau a Chyfnewidiadau
  • Rheolaeth Stâd
  • Cynghori a Chefnogi
  • Cymorth efo ceisiadau budd-dal tai
Amdanom ni | Cysylltwch â ni | Gwasanaethau i Denantiaid | Chwilio am dŷ | Cyfleoedd | Hafan | Map y Safle | Chwiliad | English
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS